Mae William Graham AC yn cefnogi ymgyrch Pysgod Deiseb Ymddiriedolaethau Natur Cymru i warchod ein moroedd a’r bywyd gwyllt anhygoel maent yn ei gynnal.
Meddai William Graham AC: “Yng Nghymru, mae gennym gysylltiad
cryf â’r môr erioed, a’r planhigion ac anifeiliaid mae’n eu cynnal. Mae môr iach a chynhyrchiol yn rhoi ocsigen i ni ei anadlu a bwyd i ni ei fwyta. Bydd creu Ardaloedd Morol Gwarchodedig a reolir yn dda yn helpu ein moroedd i ymadfer a ffynnu trwy reoli gweithgareddau a all niweidio bywyd gwyllt. Bydda i’n gwneud hynny allaf i barhau i bwyso ar y Llywodraeth i greu rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig a reolir yn dda o gwmpas Cymru.”
Dywedodd Simon King OBE, Llywydd yr Ymddiriedolaethau Natur: “Mae ein moroedd o dan straen oherwydd gorbysgota, llygredd a’r newid yn yr hinsawdd. Ond gallant gael eu gweddnewid yn Foroedd Byw sy’n llawn bywyd a lliw ac sy’n achosi i ni i gyd ryfeddu atynt. Mae gan y Cynulliad y pŵer i reoli a gwarchod ein moroedd i’w helpu i fod ymysg y mwyaf cynhyrchiol a thoreithiog o fywyd gwyllt ar y ddaear. Gallwch atgoffa’r Llywodraeth o’i hymrwymiad i Ardaloedd Morol Gwarchodedig trwy lofnodi cen ar Bysgodyn Deiseb ar www.wildlifetrusts.org/petitionfish neu drwy anfon y neges destun FISH at60777.”
Bydd y Pysgod Deiseb yn dychwelyd i’r Senedd yn ddiweddarach yn y flwyddyn i ddangos i Lywodraeth Cymru faint mae’r cyhoedd yn cefnogi Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru.
Nodiadau i olygyddion:
- Mae yna chwe Ymddiriedolaeth Natur yng Nghymru’n cydweithio i warchod bywyd gwyllt i’r dyfodol. Rhyngom, mae gennym fwy na 30,000 o aelodau ac rydym yn rheoli 230 o warchodfeydd natur, gan gynnwys 28 o warchodfeydd arfordirol. Rydym hefyd yn ymgyrchu ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol dros warchodaeth well i fywyd gwyllt a’r amgylchedd yng Nghymru.

- Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn ymgyrchu ers blynyddoedd lawer dros ddeddfwriaeth gynhwysfawr i gael gwarchodaeth well i fywyd gwyllt morol a rheolaeth effeithiol ar ein moroedd. I gael mwy o wybodaeth, ewch i http://www.wildlifetrusts.org/livingseas
- ‘Pysgod Deiseb’ yw ymgyrch Ymddiriedolaethau Natur Cymru i gael cefnogaeth gan y cyhoedd dros Ardaloedd Morol Gwarchodedig a Pharthau Cadwraeth Morol yng Nghymru. Mae cennau wedi’u llofnodi’n cael eu gosod ar ein pysgod, a fydd yn y pen draw yn ‘heigio’ gyda’i gilydd i’r Senedd a San Steffan i ddangos faint mae’r cyhoedd yn cefnogi / faint o gefnogaeth sydd gan y cyhoedd dros / i Ardaloedd Morol Gwarchodedig. I gael mwy o wybodaeth, ewch i http://www.wildlifetrusts.org/petitionfish

